P-05-855 Adolygiad o ryddhad ardrethi busnesau bach

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Endaf Cooke & Gavin Owen, ar ôl casglu 310 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r system rhyddhad ardrethi busnesau bach fel bod busnesau sydd â gwerth ardrethol o £10,000 neu lai yn cael disgownt o 100 y cant. At hynny, bod unrhyw fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol rhwng £10,000.01 a £20,000 yn cael disgownt/rhyddhad ar system raddedig rhwng 0 a 100 y cant.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Ar hyn o bryd nid yw'r system rhyddhad ardrethi busnesau bach ond yn cynnig disgownt o 100 y cant i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £6,000. Ond, yn Lloegr, mae busnesau bach sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 yn cael disgownt o 100 y cant.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Arfon

·         Gogledd Cymru